ActionFraud - National Fraud & Cyber Crime Reporting Centre - Call 0300 123 2040

Adroddiad yn gymraeg

Rhowch wybod i ‘Action Fraud’ am unrhyw dwyll.

Os ydych chi wedi cael eich twyllo, gallwch roi gwybod i  ‘Action Fraud’ - canolfan hysbysu twyll y Deyrnas Unedig.  Gallwch hysbysu ‘Action Fraud’ am unrhyw dwyll os ydych chi yn y DU, os digwyddodd y twyll yn y DU neu os ydy’r twyll yn gysylltiedig â’r DU ac wedi digwydd ar-lein.

Os nad ydych chi’n siarad Saesneg, neu os nad Saesneg yw eich mamiaith, mae gennym wasanaeth sy’n rhoi cyfle ichi roi gwybod am y twyll yn eich iaith chi.

  • Ffoniwch 0300 123 2040.
  • Atebir eich galwad gan rywun sy’n siarad Saesneg.  Bydd angen ichi ddweud wrthyn nhw pa iaith rydych chi’n siarad.
  • Yna byddan nhw’n gofyn ichi aros tra maen nhw’n galw cyfieithydd.  Gall hyn gymryd ychydig o funudau, felly peidiwch â rhoi’r ffôn i lawr.  Os na fydd cyfieithydd ar gael ar unwaith, gofynnir ichi adael eich rhif ffôn a bydd rhywun yn eich ffonio nôl pan fydd cyfieithydd ar gael.
  • Pan fydd y cyfieithydd yn siarad â chi  bydd yn gofyn ichi ateb rhai cwestiynau i baratoi’ch adroddiad am y twyll.  Gwnewch yn siŵr bod unrhyw waith papur sydd gennych am y twyll wrth law er mwyn ichi allu ateb yr holl gwestiynau.

Os ydych chi'n siaradwr Cymraeg ac yn angen wneud adroddiad fe allwch galw ein llinell gymorth lle byddwn ni'n gallu cymryd eich adroddiad dros y ffôn.

Mae'r llinellau ar agor:
Dydd Llun - Dydd Gwener: 8am i 8pm
Dydd Sadwrn: Closed
Dydd Sul: Closed
Ffôn 0300 123 2040
Ffôn testun 0300 123 2050

Related articles